Yr Hen Iaith podcast artwork

Yr Hen Iaith

by Mimosa Cymru · EN · Education

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

121episodes
2023first episode
Every 2 weeksnew episodes
34 mintypical episode

Latest episodes

  1. Pennod 100 - Yr Eisteddfod, y Nofel, a Gwleidyddiaeth ar Ddiwedd Canrif

    Dyma ni’n dathlu diwedd cyfres 3 Yr Hen Iaith a’r ffaith syfrdanol ein bod ni wedi cyrraedd 100 o benodau – yn y brif gyfres, heb gyfrif y gyfres lefel A –...

    44 min
  2. Pennod 99 - Breuddwyd Cenedlaetholwr wrth ei Ewyllys: Emrys ap Iwan

    Gan barhau â’n pwyslais diweddar ar lenyddiaeth y 1890au a’r cysylltiad rhwng llenorion Cymraeg y cyfnod hwnnw a gwleidyddiaeth genedlaetholgar, edrychwn ar...

    41 min
  3. Pennod 98 - O. M. Edwards

    Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn...

    33 min
  4. Pennod 97 - Iwtopia Bardd a Beirniadaeth Ysgolhaig: John Morris-Jones

    Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones...

    35 min
  5. Pennod 96 - Fflangell Elphin: Barddoniaeth a Beirniadaeth Lenyddol yn y 1890au

    Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895. Ystyriwn feirniadaeth...

    27 min
  6. Pennod 95 - ‘A Natur sy’n canu ei hanthem i mi’: Islwyn a’i ‘Storm’

    Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’. Yn ôl Glyn Tegai Hughes, hwn oedd bardd Cymraeg gorau’r...

    34 min
  7. Pennod 94 - Profedigaethau Enoc Huws: Daniel Owen (rhan 2)

    Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws. Dechreuwn gyda brawddeg agoriadol y nofel – o bosibl y...

    27 min
  8. Pennod 93 - ‘Cymreigrwydd ei Gymeriadau’: Daniel Owen (rhan 1)

    Wedi ystyried gwrthwynebiad rhai Cymry Ymneilluol i’r nofel mewn ambell bennod ddiweddar, cawn yn y bennod hon gyfle i ddechrau trafod Daniel Owen, nofelydd...

    23 min
  9. Pennod 92 - Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg Patagonia

    A ninnau wedi rhoi sylw i lenyddiaeth Gymraeg Gogledd America mewn cwpl o benodau cynharach, dyma gyfle i ehangu’r drafodaeth ac ystyried y modd yr ehangodd...

    37 min
  10. Pennod 91 - Cranogwen

    Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar Sarah Jane Rees (1839-1916), y fenyw amryddawn o Langrannog a fabwysiadodd yr enw Cranogwen. Trafodwn ychydig o’i hanes...

    42 min
  11. Pennod 90 - Aelwyd F’Ewythr Robert

    Dyma ni’n parhau i drafod Gwilym Hiraethog yn y bennod hon, gan graffu ar garreg filltir o lyfr a gyhoeddodd yn 1853, Aelwyd F’Ewythr Robert neu Hanes Caban...

    39 min
  12. Pennod 89 - Gwilym Hiraethog

    Pe bai’n rhaid dewis un llenor yn unig wrth drafod holl lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jerry Hunter yn dweud y byddai’n dewis Gwilym...

    34 min
  13. Pennod 88 - ‘Chwaeth bresennol y Bobl’: Ceiriog

    Trafodwn John Ceiriog Hughes (1832-1887) yn y bennod hon. Ceiriog o bosib oedd y bardd Cymraeg mwyaf poblogaidd yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar...

    26 min
  14. Pennod 87 - ‘Pur fel y Dur’: Y Llyfrau Gleision a Llên Benywod

    Dyma ni’n parhau i drafod effaith y ‘Llyfrau Gleision’ ar lenyddiaeth Gymraeg, gan ganolbwynio’n benodol ar lais llenyddol y Gymraes y tro hwn. Mae teitl y...

    24 min
  15. Pennod 86 - R. J. Derfel a Brad y Llyfrau Gleision (neu ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!)

    (neu, a defnyddio teitl arall a awgrymodd Richard Wyn Jones, ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!) Trafodwn yn gyntaf hanes y ‘Llyfrau Gleision’ a...

    37 min
  16. Pwnnod 85 - Rhannu ‘Trysorau Gwerthfawr’: Dechreuadau gwasg gyfnodol Gymraeg America

    Dyma’r ail bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn ystod cynhadledd NAASWCH yn Rio Grande, Ohio. Trafodwn hanes cynnar gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol...

    36 min
  17. Pennod 84 - Yr Hen Bersoniaid Llengar, Ieuan Glan Geirionydd ac Alun

    Wrth i ni barhau i ystyried barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nodwn yn gyntaf fod barn ysgolheigion diweddarach yn negyddol iawn amdani ar...

    29 min
  18. Pennod 83 - Awdl Eisteddfodol a Phroto-Nofel: Cawrdaf

    Trafodwn William Ellis Jones (1795-1848) yn y bennod hon. Ac yntau’n frodor o Abererch, Eifionydd, cymerodd enw’r sant y mae’r eglwys leol wedi’i chysegru...

    31 min
  19. Pennod 82 - Eben Fardd

    Canolbwyntiwn ar Ebenezer Thomas (1802-1863) yn y bennod hon. Mae trafod dechrau’i yrfa lenyddol gynnar yn gyfle i ni ystyried diwylliant barddol Cymraeg...

    33 min
  20. Pennod 81 - ‘Gwybodaeth yn amlhau’: Y Wasg Gyfnodol Gymraeg ar ddechrau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’

    A ninnau wedi cyrraedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuwn drafod rhai o’r trawsffurfiadau a effeithiai ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Diwydiannu, tŵf...

    30 min

Showing the latest 20 of 121. Every episode is in the API: GET /v1/podcasts/pod_0p714r04f0b7jawab23abch68e/episodes

More education podcasts →